|
|||||||||||||||||||
![]() |
Sut Fedrwch Chi Fod O GymorthBydd y gost o adfer a chynnal tirwedd mor fawr a chymhleth a'r Hafod yn llawer mwy na'r cyllid ariannu sydd wedi ei gytuno ar hyn o bryd, ac o'r herwydd y cyfraniadau mwyaf defnyddiol yw'r cyfraniadau ariannol. Mae pob rhodd, waeth pa mor fach, yn cael croeso ac yn medru bod o werth pellach trwy gyfrwng Cymorth rhodd. Derbynnir yn frwdfrydig ymholiadau oddi wrth grwpiau sy'n dymuno darparu gwirfoddolwyr er mwyn gweithio ar y tir. Dewch yn un o Gefnogwyr yr HafodTrwy gyfrannu rhodd o £15 y flwyddyn, byddwch yn derbyn gwybodaeth gyson trwy'r post ynghylch datblygiadau, cyhoeddiadau a digwyddiadau tra ar yr un pryd wneud cyfraniad tuag at ein cynnal. Ysgrifennwch, ffoniwch neu e-bostio m er mwyaton derbyn ffurflen. Mae rhoddion yn ddilys ar gyfer Cymorth Rhodd.
Dylai rhodd i'r Ymddiriedolaeth gynnwys ei enw, rhif yr elusen, a'r cyfeiriad. Er enghraifft: Rwy'n cymynnu i Ymddiriedolaeth yr Hafod (rhif elusen gofrestredig 1043127) o Swyddfa Ystad yr Hafod, Pontrhydygroes, Ystrad Meurig, Ceredigion, SY25 6DX Y swm £________ Os hoffech drafod cymynrodd mewn mwy o fanylder, neu ein hysbysu ynghylch eich cynlluniau, a wnewch chi ysgrifennu at Drysorydd Ymddiriedolaeth yr Hafod yn y cyfeiriad uchod.
|
||||||||||||||||||
Cefnogir Partneriaeth Cadwraeth Yr Hafod gan:
|