|
|||||||||||||||||||
![]() |
Croeso i HafodCydnabyddir Hafod Uchtryd, 12 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth, fel un o'r enghreifftiau gorau yn Ewrop o dirwedd darluniaidd. Adeiladodd y perchennog enwocaf, Thomas Johnes (1748-1816), gartref newydd yn y lleoliad diarffordd hwn a threfnu'r tir mewn dull addas ar gyfer arddangos y prydferthwch naturiol mewn dull cyson ag 'egwyddorion darluniaidd' a oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda theithiau cerdded cylchol a oedd yn caniatáu i'r ymwelydd fwynhau cyfres o olygfeydd a phrofiadau. Defnyddiodd Johnes y tir hefyd ar gyfer ffermio, coedwigaeth a garddio, gan, ym mhob achos, roi cais ar syniadau a dulliau arbrofol a newydd. Daeth Hafod yn un o'r cyrchfannau hanfodol ar gyfer twristiaid cynnar i Gymru. Heddiw mae ystad yr Hafod yn cynnwys rhyw 200 hectar yn Nyffryn Ystwyth a'r bryniau o gwmpas. Y Comisiwn Coedwigaeth yw perchennog y rhan fwyaf ohono, sydd, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Hafod, yn rheoli prosiect cadwraeth ac adfer gyda chyllid cyhoeddus a phreifat. Cyd-Enillwr, 2007, Dyfarniad Pensaernïol y Grwp Siorseg am ardd neu dirlun adferedig
Dewch yn un o Gefnogwyr yr Hafod
|
||||||||||||||||||
Cefnogir Partneriaeth Cadwraeth Yr Hafod gan:
|