Cyfarwyddiadau ynghylch sut i'n cyrraedd
Mae'r Hafod ar agor i gerddwyr ar hyd y flwyddyn, yn rhad ac am ddim. Mae rhai o'r troeon yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol yn unig, ac argymhellir fod pawb yn gwisgo esgidiau praff. Mae taflen yn dangos y llwybrau ar gael yn rhad ac am ddim o'r maes parcio ac o Swyddfa Dwristiaid Aberystwyth.
Ar hyd y ffordd mae'r Hafod 15 milltir (24 km) o Aberystwyth. Mae'r maes parcio ar y B4574 rhwng Pontrhydygroes a Chwmystwyth (SN 768736).
Trafnidiaeth Gyhoeddus: Mae'r Hafod 3 ½ milltir (5.5 km) o Orsaf Pont ar Fynach rheilffordd Dyffryn Rheidol (dim gwasanaeth yn y gaeaf).

Cynhyrchwyd y darlun trwy gyfrwng gwasanaeth Get-a-map yr Ordnance Survey.
Atgynhyrchir y darlun trwy ganiatâd caredig yr Ordnance Survey a'r Ordnance Survey of Northern Ireland.
|