|
|||||||||||||||||||
|
|
Teithiau hunan-dywysedig
Mae pump tro gyda mynegbyst arnynt ar gael er mwyn galluogi ymwelwyr i archwilio tirlun yr Hafod ar droed, gyda'r rhain yn amrywio o ran hyd ac ymdrech Tro'r Foneddiges (Cymedrol; 3.6km)Un o'r ddwy gylchdaith glasurol a grëwyd gan Thomas Johnes yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod (1780au) ac a ddisgrifiwyd gan doreth o ymwelwyr cynnar. Mae'n cynnwys golygfeydd sy'n amrywio'n sylweddol o ran ei natur, ac yn darparu cyferbyniad rhwng tirwedd tyner y parc agored a dyffrynnoedd coediog cul gyda nentydd chwim a byrlymog.
Tro Ceunant Ystwyth(Cymedrol; cylch 1.5 km, yn cysylltu gyda Thro'r Foneddiges a Thro'r Bonheddwr).Tro gyda golygfeydd nodedig yn enwedig o'r Ystwyth a'i cheunant caregog. Croesir yr afon trwy gyfrwng Pont Tsaen - pont grog gul sydd wedi ei hadfer i'w lleoliad hanesyddol. Mae'r graddiannau yn gymharol dyner, ond nid yw'n lwybr sy'n addas ar gyfer y rheini sy'n casáu dibyn serth wrth ochr y llwybr. Tro'r Bonheddwr (Egnïol; 6km)Mae cychwyn y daith 1.6 km o'r maes parcio. Dyma'r ail daith ddarluniadol enwog a grëwyd gan Johnes. Gan gychwyn ger y Bont Alpaidd, mae'n mynd rhagddi trwy olygfeydd gerwin a thir sy'n fwy serth na'r troeon eraill yn yr Hafod. Mae'n cysylltu gyda nifer o lwybrau cyhoeddus, ac mae un o ganghennau'r llwybr yn arwain at Raeadr y Ceudwll. Tro Coed Hafod(Cymedrol; 1.2 km un ffordd. Pellter cylch o 4km oddi wrth y maes parcio o ddefnyddio llwybrau ynteu ffyrdd eraill yr ystad er mwyn dychwelyd.)
Mae'r tro hwn yn mynd trwy fathau amrywiol o goedwigoedd ac mae yna amrywiaeth liwgar o fywyd gwyllt yn y gwanwyn. Mae'n darparu golygfeydd braf dros dir y parc tuag at y bryniau ar y gorwel. Tro Cofeb Bedford (Cymedrol; 1.6 km)Tro byr a chymharol hawdd gyda dwy ran fer sy'n serth. Ceir golygfeydd braf dros yr ystad, yn enwedig o'r gofeb. Mae modd ymweld â Gardd Mariamne (sydd eto i'w hadfer) o'r trywydd hwn. Walkers should take note of any restrictions in place due to forestry operations, observe the Country Code, and respect the privacy of residents. Canllawiau Mynediad. Mae map Ordnance Survey Explorer rhif 213, ar raddfa 1 : 25000, yn dangos yr hawliau tramwyo cyhoeddus i mewn ac o gwmpas yr Hafod.
|
||||||||||||||||||
|
Cefnogir Partneriaeth Cadwraeth Yr Hafod gan:
|
|||||||||||||||||||