Sut Fedrwch Chi Fod O Gymorth
Bydd y gost o adfer a chynnal tirwedd mor fawr a chymhleth a'r Hafod yn llawer mwy na'r cyllid ariannu sydd wedi ei gytuno ar hyn o bryd, ac o'r herwydd y cyfraniadau mwyaf defnyddiol yw'r cyfraniadau ariannol.
Mae pob rhodd, waeth pa mor fach, yn cael croeso ac yn medru bod o werth pellach trwy gyfrwng Cymorth rhodd.
Derbynnir yn frwdfrydig ymholiadau oddi wrth grwpiau sy'n dymuno darparu gwirfoddolwyr er mwyn gweithio ar y tir.
Dewch yn un o Gefnogwyr yr Hafod
Trwy gyfrannu rhodd o £15 y flwyddyn, byddwch yn derbyn gwybodaeth gyson trwy'r post ynghylch datblygiadau, cyhoeddiadau a digwyddiadau tra ar yr un pryd wneud cyfraniad tuag at ein cynnal.
Ysgrifennwch, ffoniwch neu m er mwyaton derbyn ffurflen.
Mae rhoddion yn ddilys ar gyfer Cymorth Rhodd.
Beth am adael rhodd i Ymddiriedolaeth yr Hafod yn eich Ewyllys?
Gan fod yr Ymddiriedolaeth yn elusen, byddai rhodd oddi wrthych yn rhydd o dreth etifeddu a byddai ei werth yn cael ei dynnu oddi wrth eich ystad cyn i faich treth etifeddu gael ei amcangyfrif.
Dylai rhodd i'r Ymddiriedolaeth gynnwys ei enw, rhif yr elusen, a'r cyfeiriad. Er enghraifft:
Rwy'n cymynnu i Ymddiriedolaeth yr Hafod (rhif elusen gofrestredig 1043127) o Swyddfa Ystad yr Hafod, Pontrhydygroes, Ystrad Meurig, Ceredigion, SY25 6DX Y swm £________
Os hoffech drafod cymynrodd mewn mwy o fanylder, neu ein hysbysu ynghylch eich cynlluniau, a wnewch chi ysgrifennu at Drysorydd Ymddiriedolaeth yr Hafod yn y cyfeiriad uchod.
 |
Grwp o fyfyrwyr o dîm gwirfoddoli "Dim Prob" (Coleg Prifysgol Aberystwyth)
yn glanhau rheiliau Johnes yn barod ar gyfer peintio: Mai 2003 |
|